Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 23 Ionawr 2019
Amser:
09.00 -
11.50
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5136
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Llyr Gruffydd AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Alun Davies AC Neil Hamilton AC Mike Hedges AC |
Tystion: |
Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Richard Harries, Swyddfa Archwilio Cymru Gareth Lucey, Swyddfa Archwilio Cymru Jim Harra, HMRC Katy Peters, HMRC |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Alex Hadley (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Rhianon Passmore AC a Nick Ramsay AC.
2.1 Nodwyd y papurau.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Richard Harries, Cyfarwyddwr, Archwilio Ariannol, Swyddfa Archwilio Cymru; a Gareth Lucey, Rheolwr Archwilio, Swyddfa Archwilio Cymru.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad, gan ystyried yr achos o blaid diwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
7.1 Nododd y Pwyllgor y Rheoliadau Treth Incwm (Talu Wrth Ennill) (Diwygiad Rhif 2) 2018.
8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20.
9.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jim Harra, Ail Ysgrifennydd Parhaol, Cyllid a Thollau EM; a Katy Peters, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trethi Personol, Dadansoddi a Gwybodaeth, a Phennaeth Proffesiwn (Economeg), Cyllid a Thollau EM.
10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
11.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor Gynllun Ffioedd Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2019-20 o dan Reol Sefydlog 18.10(x) yn unol ag adran 24(7) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
12.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad.